![]() |
Gallu'Gallu' yw’r Rhaglen Datblygiad Pobl ar gyfer pob busnes yn Ne Orllewin Cymru sy’n gysylltiedig â’r diwydiant twristiaeth. Mae tîm Datblygu Adnoddau Dynol cryf Gallu yn cynorthwyo busnesau unigol i ganfod eu hanghenion hyfforddi a datblygu, ac mae’n gweithio gyda phob Cymdeithas Twristiaeth i annog busnesau i weithio gyda Gallu ac i fuddsoddi mewn datblygiad staff trwy gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi, gweithdai, seminarau a dyddiau agored. Gall Gallu eich helpu gyda’ch holl anghenion hyfforddi un ai trwy hwyluso gweithdai neu trwy eich cynorthwyo i ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant sy’n cynnig yr union beth sydd ei angen arnoch. Mae tîm Gallu yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar ran y sector twristiaeth, gan ddylanwadu ar bobl i sicrhau bod twristiaeth yn cael lle haeddiannol ar eu hagenda! Os oes gennych unrhyw anghenion hyfforddi neu ddatblygiad busnes ac yn teimlo bod angen help arnoch, yna peidiwch ag oedi a chysylltwch â thîm Gallu heddiw i gael gwybod sut y gallant eich helpu chi a’ch busnes. Gallu ar daith ar gyfer Hyfforddiant ar ddiwedd yr haf!Mae ‘Gallu’, y Rhaglen Datblygiad Pobl ar gyfer Busnesau Twristiaeth ledled De Orllewin Cymru, yn weithredol ers bron i bedair blynedd bellach a byddwn ar daith yn ystod y misoedd nesaf i ymweld â busnesau ar hyd a lled y De Orllewin i ganfod beth yn union yw eu hanghenion hyfforddi. Cymorthfeydd Teithiol y Cymdeithasau Twristiaeth a GalluBydd Gallu a thair Cymdeithas Dwristiaeth y De Orllewin yn teithio i bob cwr o’r ardal yn ystod y chwe mis nesaf i gefnogi a chynghori busnesau twristiaeth. I gael gwybod am y dyddiadau pan fyddwn yn dod i’ch ardal chi am ragor o wybodaeth am brosiect ‘Gallu’, cysylltwch â Lowri Edrychwch isod am fwy o erthyglau .....
|
Dolenni Perthnasolcynhadledd cogyddion cymru19/20 Tachwedd 2008 Yng Nghlwb Criced Morgannwg, Stadium SWALEC, Caerdydd Cyfarfod Aelodaeth |
Newyddion
|
© 2005 TOURISM
TRAINING FORUM FOR WALES | FFORWN HYFFORDDI TWRISTIAETH YNG NGHYMRU | TOP OF PAGE |