![]() |
Gwobr Doniau Cymhwysol (GDC)Mae Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru wedi lansio rhaglen gyffrous newydd i hyfforddi cogyddion yng Nghymru. Mewn ymateb i’r galw gan gogyddion am gymwysterau ymarferol mwy cadarn a lefelau uwch o sgiliau technegol, yr ydym wedi ymuno gyda Chymdeithas Coginio Cymru a Chwmni Hyfforddi Cambrian i redeg y GDC fel cynllun peilot yng Nghymru Mae GDC ar gael ar hyd a lled Cymru, ac mae’r cynllun peilot wedi rhoi gwerth ychwanegol – bydd uwch gogyddion yn cael eu hyfforddi fel mentoriaid yn y gweithle, gan ddarparu sgiliau arbenigol iddynt i gynorthwyo a hyfforddi’r cogyddion ar eu staff. Hefyd, bydd busnesau’n gallu manteisio ar adnodd enfawr o gefnogaeth i fusnesau trwy’r Rhaglen Datblygu Gweithlu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar hyn o bryd mae’r gwobrau ar gael ar ddwy lefel, Lefel Sylfaen a Lefel Cogydd, ond mae’r lefel Cogydd Meistr yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd ar gael yn y dyfodol. Mae’r GDC yn cael ei gyflwyno yn y gweithlu’n unig felly ni fydd angen amser i ffwrdd o’r gwaith i baratoi ar gyfer asesiad. Bydd ymgeiswyr yn cael eu harholi trwy brawf ymarferol trylwyr dros dair awr a phapur ysgrifenedig mewn canolfannau profi arbenigol ledled Cymru. Bydd ymgeiswyr yn cael eu profi ar eu gallu i baratoi prydau o holl faes llafur A Driphlyg a byddant yn cael eu hasesu gan gogyddion meistr. Mae hwn yn gyfle rhagorol i ni gael gwerthuso safonau lletygarwch yng Nghymru ac yn gyfle i roi profiad o fwyd bythgofiadwy i’n hymwelwyr. Mae lle i 90 o fentoriaid a 180 o ddysgwyr ar y rhaglen. Edrychwch isod am fwy o erthyglau .....
|
Dolenni Perthnasolcynhadledd cogyddion cymru19/20 Tachwedd 2008 Yng Nghlwb Criced Morgannwg, Stadium SWALEC, Caerdydd
|
Newyddion
|
© 2005 TOURISM
TRAINING FORUM FOR WALES | FFORWN HYFFORDDI TWRISTIAETH YNG NGHYMRU | TOP OF PAGE |