English CYMRAEG
Tourism training forum for Wales - Fforwn Hyfforddi Twristiaeth Yng Nghymru
Who Do I Ask?

Chwiliwch y gronfa ddata eang “gofyn i bwy” am gyngor arbenigol ar dwristiaeth yng Nghymru

tourism training forum spacer image

Visit Wales Logo

IIP Logo
Welcome page image

Telerau ac Amodau

Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon byddwch yn cytuno ac yn cydymffurfio gyda’r telerau ac amodau canlynol sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn sail i berthynas Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru Cyfyngedig gyda chi o ran y wefan hon.
Mae’r term "Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru Cyfyngedig” neu “ni” yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Uned 16, Adeiladau Frazer, 126 Stryd Bute, Bae Caerdydd, CF10 5LE. Rhif cofrestru’r cwmni yw 4316078 Cofrestrwyd yng Nghymru. Mae’r term “chi” yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio neu’n edrych ar ein gwefan.
Mae defnydd o’r wefan yn amodol ar y telerau defnyddio canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon ar gyfer eich gwybodaeth gyffredinol a’ch defnydd chi yn unig. Gall newid heb rybudd ymlaen llaw.

  • Nid ydym ni na thrydydd partïon yn cynnig unrhyw sicrwydd na gwarant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth a’r defnydd a geir neu a gynigir ar y wefan hon ar gyfer unrhyw ddiben penodol. Yr ydych yn cydnabod y gall gwybodaeth o’r fath gynnwys gwallau neu gamgymeriadau ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu gamgymeriadau o’r fath hyd eithaf yr hyn a ganiateir yn ôl y gyfraith.

  • Yr ydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddefnyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Byddwch chi eich hun yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn ateb eich gofynion.

  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sydd wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, y dyluniad, y diwyg, gwedd, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir ei atgynhyrchu heblaw yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau a’r amodau hyn.

  • Mae pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i, neu wedi’u trwyddedu i’r gweithredwr, wedi’u cydnabod ar y wefan.

  • Gall defnydd heb awdurdod o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd droseddol.

  • O bryd i’w gilydd gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er mwyn eich hwylustod chi i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid yw’n golygu ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn.

  • Ni chaniateir i chi greu dolen i’r wefan hon o wefan neu ddogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru.

  • Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod a all godi o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan yn amodol ar gyfraith Cymru a Lloegr.

Polisi Preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y mae "Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru Cyfyngedig” yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i “Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru” pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.
Mae "Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru Cyfyngedig”” wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth benodol a fyddai’n eich galluogi i gael eich adnabod pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau y bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio’n unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.
Gall “ HyfforddiantTwristiaeth i Gymru” newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’n achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o 1 Awst 2008.

Y wybodaeth a gesglir gennym
Gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a theitl swydd

  • gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost

  • gwybodaeth ddemograffig megis cod post, hoffterau a diddordebau

  • gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion

Yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir gennym
Mae angen y wybodaeth arnom i ddeall eich anghenion ac i ddarparu gwasanaeth gwell ar eich cyfer, ac yn fwyaf arbennig am y rhesymau canlynol:

  • Cadw cofnodion mewnol.

  • Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.

  • Gallwn o bryd i’w gilydd anfon e-bost hyrwyddo sy’n cynnwys gwybodaeth am gynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall yr ydym yn credu a all fod o ddiddordeb i chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych.

  • O bryd i’w gilydd gallwn hefyd ddefnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi i ddibenion ymchwil marchnata. Gallwn gysylltu â chi trwy e-bost, dros y ffôn, ffacs neu lythyr.

  • Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan ar gyfer eich diddordebau chi.

Diogelwch
Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Er mwyn sicrhau nad oes neb heb awdurdod yn cael mynediad at eich gwybodaeth nac yn ei datgelu, yr ydym wedi cyflwyno gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas i ddiogelu a chadw’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

Dolenni at wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni sy’n eich galluogi i ymweld â gwefannau eraill a all fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein safle ni, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei datgelu pan fyddwch yn ymweld â gwefannau o’r fath ac nad yw gwefannau o’r fath yn dod o fewn cwmpas y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis cyfyngu ar y wybodaeth bersonol a gesglir ac a defnyddir yn y ffyrdd canlynol:

  • pan ofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, chwiliwch am y blwch y gallwch ei glicio i ddangos nad ydych am i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan neb i ddibenion marchnata uniongyrchol

  • os ydych wedi cytuno yn y gorffennol i ganiatáu i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth i ddibenion marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu atom neu e-bostio ymholiadau@ttfw.org.uk

Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ein bod wedi derbyn eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Gallwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon deunydd hyrwyddo am drydydd partïon atoch yr ydym yn credu a fydd o ddiddordeb i chi.
Gallwch wneud cais i weld manylion am y wybodaeth bersonol a gedwir gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.  Os hoffech dderbyn copi o’r wybodaeth a gedwir gennym amdanoch, ysgrifennwch at Uned 16 Adeiladau Frazer, 126 Stryd Bute, Bae Caerdydd, CF10 5LE.
Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth a gedwir gennym yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosibl, i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir ar unwaith.

Hysbysiad Hawlfraint
Mae hawlfraint y wefan hon a’i chynnwys yn eiddo i “Hyfforddiant Twristiaeth i Gymru Cyfyngedig” - © "Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru Cyfyngedig” 2007. Cedwir pob hawl.
Gwaherddir dosbarthu neu atgynhyrchu unrhyw ran neu’r holl gynnwys mewn unrhyw ffurf heblaw am y canlynol:

  • gallwch argraffu neu lawrlwytho darnau o’r wefan ar ddisg leol at eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun yn unig

  • gallwch gopïo’r cynnwys i drydydd partïon unigol at eu defnydd personol, ond dim ond os ydych yn cydnabod y wefan fel ffynhonnell y deunydd

Ni chaniateir i chi, oni bai eich bod wedi derbyn ein caniatâd ysgrifenedig, ddosbarthu neu wneud defnydd masnachol o’r cynnwys. Ni chewch ychwaith ei drosglwyddo na’i storio mewn unrhyw wefan arall na math arall o system adalw electronig.

Cyfraith Lywodraethu
Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu gweithredu a’u dehongli yn unol â Chyfraith Loegr. Yr ydych yn cytuno y bydd gan Lysoedd Lloegr a Chymru awdurdodaeth lwyr i glywed a phenderfynu ar unrhyw gamau neu achosion sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â defnydd o’r wefan hon.
Mae’r wefan hon wedi’i chyflwyno’n llwyr i ddibenion y sawl sy’n ei defnyddio o’r Deyrnas Unedig, ac mae’r safle’n cael ei reoli a’i weithredu o’n swyddfeydd yn y DU. Nid yw "Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru Cyfyngedig” yn honni bod cynnwys y wefan yn addas i’w ddefnyddio mewn lleoliadau eraill. Os ydych yn dewis defnyddio’r wefan o leoliad arall, chi sy’n gyfrifol am wneud hynny ac am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyfreithiau lleol.

 

Dolenni Perthnasol

tourism training forum spacer image

cynhadledd cogyddion cymru

tourism training forum spacer image

Newyddion

Cynhadledd Cogyddion Cymru

E-fwletin'AAA'

Lee Elwell, Rheolwr Prosiect Cenedlaethol Hyfforddiant Twristiaeth i Gymru, yn ennill ‘Gweithiwr Proffesiynol Ifanc Eithriadol’ yng Ngwobrau Blynyddol Cymdeithas Dwristiaeth Cymru. 
Darllenwch fwy....

 

tourism training forum spacer image
Cardiff Linguist Guides logo
Tourism Training Forum for Wales

© 2005 TOURISM TRAINING FORUM FOR WALES | FFORWN HYFFORDDI TWRISTIAETH YNG NGHYMRU | TOP OF PAGE
LIMITED COMPANY REGISTERED IN CARDIFF | YN GOFRESTREDIG YNG NGHAERDYDD |
COMPANY NUMBER/RHIF CWNI: 4316078 | TEL/FON: 029 20495174 | Telerau ac Amodau