Rhaglen Gwasanaeth Cwsmeriad newydd i Gymru
Mae Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Cymru wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu rhaglen gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer y diwydiant twristiaeth a diwydiannau cysylltiedig ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cliciwch yma am wybodaeth pellach
Gwobr Doniau Cymhwysol yng Nghymru
Sut ydych chi’n penderfynu pa mor dda yw cogydd?
Ni ellir penderfynu yn ôl faint o amser y maent wedi bod yn coginio neu yn ôl pwy y maent wedi bod yn gweithio iddo nac, i fod yn onest, yn ôl sawl NVQ sydd ganddynt. Dim ond un ffordd sydd - blasu’r bwyd y maent yn ei goginio. Mewn geiriau eraill, prawf ymarferol dan amodau gweithio arferol.
Yn rhyfedd ddigon, nid oes gan ein diwydiant ffordd o’r fath o brofi darpar weithwyr. Byddai’r rhan fwyaf ohonoch yn profi pobl yn eich ffordd eich hun ond does dim “meincnod” y gallwch ddibynnu arno – tan rwan.
Cliciwch yma am wybodaeth pellach
Ydych chi erioed wedi gofyn pwy ddylwn ei holi?
Os oes gennych chi gysylltiad â'r byd twristiaeth neu efallai eich bod ar fin mentro, yna byddwch yn cofio dyddiau pan nad oeddech yn gwybod at bwy i droi am gyngor!
Cliciwch yma am wybodaeth pellach
Arweinlyfr Hyfforddiant Twristiaeth
A fuoch chi erioed yn pendroni ynghylch lle i ddod o hyd i gwrs neu brosiect hyfforddi ar eich cyfer chi neu eich staff?
Cliciwch yma am wybodaeth pellach
Pecyn cymorth i’ch gadael yn rhydd i redeg eich busnes!
Mae Llwyddiant Trwy Eich Pobl a Mwy O Lwyddiant Trwy Eich Pobl yn Becynnau Cymorth sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo busnesau twristiaeth i weithredu’n llwyddiannus yn yr 21 ganrif.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
|