 |
TTFW 2001 – Adroddiad Gwerthuso 2006
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad o’r dudalen hon un ai fel dogfen PDF neu Word. Nid yw’r adroddiad ar gael yn Gymraeg.
Lawrlwythwch y ddogfen PDF (112Kb)
Lawrlwythwch y ddogfen Microsoft Word (67Kb)
Prosiect Ymchwil Miller a gomisiynwyd gan TTFW
Comisiynwyd Miller Research gan y Fforwm i gynnal ymchwil i nifer a natur y gweithwyr tramor yn niwydiant twristiaeth Cymru. Cyflwynwyd crynodeb o’r canfyddiadau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2005 ym mis Tachwedd a gellir ei weld trwy glicio ar un o’r dolenni isod.
Nid yw’r adroddiad ar gael yn Gymraeg.
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol (Dogfen Microsoft Word 204Kb)
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol (Dogfen PDF 178Kb)
Mind The Gap: Match Training Provision to Business Need
Gan Dr Claire Haven-Tang a’r Athro Eleri Jones
Ysgol Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Hamdden Cymru
Cynhaliwyd y prosiect rhwng Gorffennaf 2004 a Mawrth 2005 mewn partneriaeth â Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru (TTFW) ac mewn cydweithrediad â Phobl yn Gyntaf, y Cyngor Sgiliau Sector newydd ar gyfer Lletygarwch, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth.
Mae Mind the Gap wedi’i gynllunio i fod o fudd i fusnesau lletygarwch, teithio a thwristiaeth ledled Cymru trwy ddylanwadu a llunio darpariaeth dysgu i ddiwallu’ch anghenion yn well.
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol (Dogfen Microsoft Word 571Kb)
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol (Dogfen PDF 155Kb)
Adroddiad Ymchwil i’r Farchnad Lafur
Gan Dr Claire Haven-Tang a’r Athro Eleri Jones
Ysgol Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Hamdden Cymru
Mae’r prosiect hwn, a gynhaliwyd rhwng Tachwedd 2003 a Mawrth 2004, yn asesu’r farchnad lafur ac anghenion sgiliau’r sector twristiaeth a sectorau cysylltiedig yng Nghymru.
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol (Dogfen Microsoft Word 542Kb)
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol (Dogfen PDF 162Kb)
Cydraddoldeb Rhywiol yn y Gweithle Twristiaeth yng Nghymru
gan Alan White, Dr Eleri Jones a Diana James*
Ysgol Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Hamdden Cymru, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru *
Mae canfyddiadau o gyfle cyfartal gan staff craidd, h.y. swyddi nad ydynt yn dymhorol, sy’n llawn amser ac sy’n cael eu hystyried gan y cyflogwr fel staff parhaol – ‘swyddi go iawn’ yn hytrach na gwaith tymhorol – yn bwysig o ran canfod agweddau tymor hir tuag at gyflogaeth yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch ac maent yn allweddol i ddyfodol y diwydiannau hynny yng Nghymru.
Mae’r papur yn edrych ar natur bresennol cyfle cyfartal a chydraddoldeb rhywiol ar lefel sefydliadol yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Mae’n ymchwilio i wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y gweithle ac maent edrych ar raddfa datblygiad camau a gymerir i ‘brif ffrydio’ polisïau cyfle cyfartal. Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 a’i fframwaith cyfreithiol yn rhoi cyd-destun cyffredinol i’r astudiaeth.
Nid yw’r adroddiad ar gael yn Gymraeg.
Lawrlwytho'r crynodeb gweithredol (Dogfen Microsoft Word 53Kb)
Lawrlwytho'r crynodeb gweithredol (Dogfen PDF 67Kb)
Clwb Mentora Arferion Gorau
Mae’r rhaglen Mentora Arferion Gorau wedi’i chynllunio i gynorthwyo busnesau twristiaeth trwy hwyluso cysylltiadau un i un gyda pherson sy’n rhedeg busnes twristiaeth llwyddiannus i weithredu fel clust i wrando ar syniadau a phroblemau, a’ch cynorthwyo i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i’ch busnes.
Nid yw’r adroddiad ar gael yn Gymraeg.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
|
19/20 Tachwedd 2008 Yng Nghlwb Criced Morgannwg, Stadium SWALEC, Caerdydd
 |
Lee Elwell, Rheolwr Prosiect Cenedlaethol Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru, yn ennill ‘Gweithiwr Proffesiynol Ifanc Eithriadol’ yng Ngwobrau Blynyddol Cymdeithas Dwristiaeth Cymru.
Darllenwch fwy....
E-Gylchlythyr 'TTFW' Hydref 08
E-fwletin'AAA'
Cynhadledd Cogyddion Cymru 19/20 Tachwedd 08
 |